Ynghylch Asesiadau Addasrwydd

Arweiniad cyffredinol

O dan Adran 134 Ddeddf Addysg 2002, a Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru (Cymru) 2010), mae'n rhaid i bob athro cymwys sy'n cyflawni 'gwaith penodedig' athro mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fod wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor. Anogir personau eraill sy'n meddu ar Statws Athro Cymwys (SAC), fel y rheiny sy'n gweithio mewn ysgolion annibynnol, addysg bellach neu uwch, fel tiwtoriaid cartref neu'r rheiny nad ydynt yn addysgu ar hyn o bryd, i gofrestru hefyd.

Yn unol â Deddf Addysg 2002, a Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 10 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006 (OSC 2006 Rhif 1336 (Cy. 129) (C.44)), nid yw athro/athrawes yn gymwys i gofrestru gyda'r Cyngor oni bai ei fod yn fodlon ei fod/ei bod yn addas i fod yn athro/athrawes gofrestredig. Mae'r Cyngor yn asesu addasrwydd i gofrestru ar sail:

  • Datgeliad Manylach a gaiff ei dderbyn gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (SCT); a/neu
  • ddatgeliad a wneir gan ymgeisydd mewn perthynas â'i gofnod/ei chofnod troseddol dramor; a/neu
  • ddatganiad a wneir gan ymgeisydd ar Ffurflen Gais i Gofrestru'r Cyngor, neu mewn mannau eraill.

Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth ynghylch y broses addasrwydd. Dylid nodi mai gwybodaeth gyffredinol yw'r wybodaeth hon, ac ym mhob sefyllfa, Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygiad) 2006, a Rheolau Cofrestru (Mawrth 2012) y Cyngor gaiff flaenoriaeth.

Trosolwg:

I gael trosolwg cyffredinol o'r broses addasrwydd, cliciwch yma.

Athrawon:

Os ydych ar fin gwneud cais i gofrestru, neu os ydych wedi cael llythyr gan y Tîm Safonau Proffesiynol mewn perthynas â’ch datgeliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (SCT), cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltwch â'r Tîm Safonau Proffesiynol

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
E-bost:safonauproffesiynol@gtcw.org.uk