Croeso i adran ystadegau ac adroddiadau ymchwil ein gwefan

Stats 2012 WMae'r data rydym yn ei gadw ar ein Cofrestr Athrawon Cymwys yn unigryw ac nid yw ar gael gan unrhyw ffynhonnell arall. Bob blwyddyn, rydym yn defnyddio'r data hwn i gyhoeddi crynodeb o wybodaeth ystadegol o'r Gofrestr, gan ddarparu ystod eang o ffeithiau diddorol ynghylch y proffesiwn addysgu yng Nghymru.

Er enghraifft - a oeddech chi'n gwybod...?

  • Mae dros 38,200 athrawon cofrestredig yng Nghymru
  • Mae 75% o athrawon cofrestredig yng Nghymru yn fenywaidd
  • Mae 43.5% o athrawon cofrestredig yng Nghymru yn wrywaidd
  • 11,749 o athrawon cofrestredig yn 50 oed neu'n hŷn
  • Mae 54.5% o athrawon cofrestredig yn datgan mai Cymreig yw eu Hunaniaeth Genedlaethol
  • 0.3% yn unig o athrawon cofrestredig sydd wedi datgan anabledd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2011.

    Os oes diddordeb gennych mewn gwybod rhagor, cliciwch yma (PDF 1.54Mb) i ddarllen y rhifyn cyfredol o Grynodeb Ystadegol Blynyddol 2012

    Mae crynodebau 2002 i 2011 ar gael o hyd, os dymunwch weld gwybodaeth hanesol.

    I gael manylion pellach, cysylltwch â’r Tîm Cofrestru ar 029 20550350 neu e-bostio Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

    Adroddiadau Ymchwil

    Gan fod gennym ffynhonnell ddata mor unigryw, gofynnir i ni yn aml ddarparu dadansoddiad ystadegol i nifer o sefydliadau a rhanddeiliaid eraill sy'n gysylltiedig â'r proffesiwn addysgu.

    Rydym hefyd yn credu efallai y bydd yr wybodaeth hon o ddefnydd i unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'r proffesiwn addysgu ac o ganlyniad nodir rhai o'r dadansoddiadau mwyaf poblogaidd rydym wedi'u gwneud isod:

     

    pdf_icon Dadansoddiad o'r athrawon a hyfforddodd yng Nghymru a enillodd Statws Athro Cymwys (SAC) ar 1af Awst 2006 a'u disgrifiad cyflogaeth presennol 5 mlynedd ar ôl cymhwyso – 1af Rhagfyr 2011.

    Ar gael ar ffurf PDF 16k

    pdf_icon

    Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) – Dadansoddiad o athrawon a hyfforddodd yng Nghymru a enillodd Statws Athro Cymwys (SAC) ar 1af Awst 2005 a’u disgrifiad cyflgoaeth presennol 5 mlynedd ar ôl cymhwyso – 1af Rhagfyr 2010.

    Ar gael ar ffurf PDF 20k

    pdf_iconCyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) – Dadansoddiad o athrawon cyflenwi yng Nghymru – 28ain Hydref 2009

    PDF 43k

    pdf_iconCyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) – Dadansoddiad o athrawon a hyfforddwyd yng Nghymru a enillodd Statws Athro Cymwys (SAC) ar 1af Awst 2004 a disgrifiad o'u cyflogaeth 5 mlynedd ar ôl cymhwyso - 26ain Hydref 2009

    Ar gael ar ffurf PDF (12k)