Amdanom Ni
Beth yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru?
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) yw’r corff proffesiynol hunanreoleiddiol statudol i’r proffesiwn addysgu yng Nghymru.
Ein nodau yw:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon er lles y cyhoedd.
Rydym yn gweithio i godi statws y proffesiwn trwy fwy o ddealltwriaeth ar ran y cyhoedd o’r hyn y mae addysgu yn ei olygu.
Pwy sydd ar y Cyngor?
Mae’r Cyngor yn cynnwys 25 o aelodau; athrawon a etholir gan eu cydweithwyr yw deuddeg ohonynt. Penodir naw aelod yn dilyn enwebiadau gan yr undebau athrawon a sefydliadau addysgol eraill. Mae pedwar aelod yn cael eu penodi’n uniongyrchol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyllid
Er mwyn sicrhau ein bod yn annibynnol ar y llywodraeth, mae CyngACC yn ariannu ei hun o’r ffioedd cofrestru blynyddol y mae athrawon yn eu talu.
Swyddogaeth y Cyngor
Mae tair swyddogaeth gan CyngACC:
Swyddogaeth rheoleiddio
Rydym yn cadw Cofrestr athrawon cymwys yng Nghymru. Mae’n rhaid i bob athro cymwys sy’n addysgu yn ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru gofrestru gyda CyngACC.
Rydym yn nodi’r disgwyliadau proffesiynol i athrawon yn ein Datganiad Gwerthoedd ac Arfer Proffesiynol.
Rydym yn gyfrifol am ymchwilio a gwrando achosion yn erbyn athrawon cofrestredig sydd wedi’u cyhuddo o gamymddygiad proffesiynol neu anghymhwysedd.
Swyddogaeth cynghori
Un o’n prif swyddogaethau yw cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau eraill ar faterion yn ymwneud ag addysgu, er enghraifft, datblygiad proffesiynol parhaus a recriwtio, cadw a chyflenwi athrawon. Rydym yn gwneud hyn trwy lunio safleoedd polisi a chyngor a thrwy ymateb i ymgynghoriadau.
Swyddogaeth gweithredu
Gallwn gyflawni gweithgareddau i hybu datblygiad proffesiynol parhaus athrawon a recriwtio athrawon. Ar hyn o bryd rydym yn gweinyddu rhaglenni ariannu dros Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd â’r bwriad o ddiwallu anghenion athrawon o ran datblygiad proffesiynol yn ystod eu tair blynedd gyntaf ac, ar ôl hynny, trwy gydol eu gyrfaoedd.
Rydym hefyd yn penderfynu ar ddyfarnu Statws Athro Cymwys ac yn rhoi tystysgrifau ymsefydlu i athrawon newydd sy’n bodloni’r safon ofynnol ar ôl blwyddyn o addysgu. Ni hefyd yw’r corff apelio annibynnol i athrawon sydd eisiau apelio yn erbyn canlyniad eu blwyddyn ymsefydlu.
