Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Beth yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru?
Pwy yw aelodau'r Cyngor?
I gael manylion llawn am aelodau'r Cyngor, cliciwch yma.
Pam mae rhaid i mi gofrestru?
O dan Ddeddf Addysg 2002,mae'n rhaid i bob athro sy'n cyflawni gwaith penodedig mewn ysgol a gynhelir fod wedi'i gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC).
Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol ar gyfer athrawon sy'n gweithio'n llawn-amser, yn rhan-amser neu fel athrawon cyflenwi.
Anogir athrawon eraill sy'n meddu ar Statws Athro Cymwys (SAC), fel y rheiny sy'n gweithio mewn ysgolion annibynnol, yn y sector addysg bellach neu uwch, fel tiwtoriaid cartref hunangyflogedig neu'r rheiny nad ydynt yn addysgu ar hyn o bryd, i gofrestru hefyd.
Faint yw'r ffi gofrestru flynyddol?
Y ffi flynyddol yw £45.
Ad-delir £33 o'ch ffi drwy'r setliad cyflog i athrawon.
Pam nad yw'r ffi gyfan yn cael ei had-dalu?
Ad-delir £33 o'ch ffi drwy eich setliad cyflog. Mae hyn yn digwydd er 2002, ac mae'n berthnasol yng Nghymru a Lloegr. Gan fod y ffi bellach wedi codi i £45, nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru'n fodlon ad-dalu'r gwahaniaeth o £12 ar ben y £33. Os ydych yn teimlo'n gryf am hyn, dylech gysylltu â'ch undeb i ddadlau dros gael yr ad-daliad llawn gan y Cynulliad. Yn 2003, dywedodd Charles Clarke, sef yr Ysgrifennydd Addysg ar y pryd, fod yr egwyddor o gael ad-daliad blynyddol wedi'i sefydlu i dalu am gost y ffi yng Nghymru a Lloegr.
Ad-delir ffi athrawon yng Ngogledd Iwerddon gan Adran Addysg Gogledd Iwerddon (ond nid drwy eu setliad cyflog). Nid yw ffioedd athrawon yn yr Alban yn cael eu had-dalu. Mae gan broffesiynau eraill ymagwedd amrywiol tuag at ad-dalu - mae rhai'n ad-dalu, ond rhai ddim.
Sut mae'r ffi'n cymharu â ffioedd cyrff proffesiynol eraill?
|
Sefydliad |
Ffi gofrestru flynyddol |
A gaiff y ffi ei had-dalu? |
|
Cyngor Meddygol Cyffredinol
|
£410 (meddygon) |
Mae llawer o gyflogwyr yn talu |
|
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth |
£76 (nyrsys) |
Cyfraniad o 50% tuag at y ffi gadw flynyddol gan y cyflogwr
|
|
Cyngor Deintyddol Cyffredinol |
£438 (deintyddion)
|
Yn ôl disgresiwn y cyflogwr unigol
|
|
Y Bwrdd Cofrestru Penseiri |
£86 (penseiri) |
Yn ôl disgresiwn y cyflogwr unigol
|
|
Cyngor Gofal Cymru |
£30 (gweithwyr cymdeithasol) |
Yn ôl disgresiwn y cyflogwr unigol
|
|
ISefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) |
£283 os yw'r cyflog yn uwch na £22,800 y flwyddyn |
Mae canran sylweddol yn hawlio ffioedd yn ôl, a delir gan y cyflogwr fel arwydd o ewyllys da |
(gwybodaeth a gasglwyd ym mis Awst 2009)
Beth rydw i'n ei gael am y ffi? Sut mae fy ffi'n cael ei gwario?
Ceir y prif gostau ym maes cofrestru, gwaith safonau proffesiynol (ymchwilio i a gwrando ar achosion camymddygiad ac anghymhwysedd proffesiynol), polisi a datblygu cyngor a hybu cyfraniad cadarnhaol y proffesiwn addysgu at gymdeithas. Mae'r holl weithgareddau hyn yn cyfrannu i godi statws athrawon ac addysgu.
NID yw'ch ffi'n talu am y canlynol:
- cyllid ar gyfer Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar;
- cyllid ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus athrawon â ffocws unigol;
- dyfarnu statws athro cymwys; a
- gwrando ar apeliadau Sefydlu.
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n talu am yr agweddau hyn yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys costau staff a gweinyddu.
Cynllunnir cyllidebau manwl yn flynyddol yn rhan o'r cytundeb ar y cynllun gweithredol blynyddol. Cytunir ar y cynllun hwn gan aelodau'r Cyngor a gaiff eu hethol a'u penodi. Caiff cyllidebau a gwariant eu craffu'n fanwl yn fewnol, a chaiff eu harchwilio'n fewnol ac yn allanol, (cynhelir yr archwiliad allanol gan Swyddfa Archwilio Cymru) a thrwy gyhoeddi'r cyfrifon blynyddol.
