Darlith Addysg Cymru

Darlith Addysg Cymru 2011

Keith_Towler

Traddodwyd Darlith Addysg Cymru 2011 gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 3 Hydref.

Yn ystod y Ddarlith, fu'n dwyn y teitl 'Eu gweld a'u clywed: dysgu drwy lygaid disgyblion', roedd y Comisiynydd yn myfyrio ar y cynnydd yng nghyfranogiad disgyblion yn ddiweddar, ac yn ystyried a oes lle iddo wrth wella addysgu a dysgu yng Nghymru.

Gellir clywed recordiad o'r Ddarlith ar Ffurf MP3 yma (63Mb)

I weld clipiau DVD i gyd-fynd â'r Ddarlith, cliciwch yma (MP4 115Mb)

 

 

Darlith Addysg Cymru 2010

Lord_Puttnam_photo1

Traddodwyd Darlith Addysg Cymru 2010 gan yr Arglwydd David Puttnam, y cynhyrchydd ffilmiau a hyrwyddwr addysg enwog, yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd nos Lun 4 Hydref.

Roedd y Ddarlith, fu’n dwyn y teitl, ‘Hir pob aros a nawr dyma ni: rôl gyfnewidiol addysgu ac athrawon yn yr 21ain ganrif’, yn edrych ar sut mae’r cyfleoedd a’r heriau a wynebir yn ein byd cyfanfydol yn debygol o weddnewid addysgu.

Gellir gwrando ar recordiad o’r Ddarlith ar ffurf MP3 yma (42Mb) a’r sesiwn gwestiynau yma (19Mb). Mae testun y Ddarlith ar gael yma (PDF 242k).

 

 

Darlith Addysg Cymru 2009

Sir William Atkinson

Cynhaliwyd Darlith Addysg Cymru 2009 ar nos Lun 5 Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Caerdydd.

Cafodd y Ddarlith, a fu’n dwyn y teitl ‘Cau’r Bwlch: Ymateb o’r Rheng Flaen’, ei thraethu gan y Syr William Atkinson.

Gellir gwrando ar recordiadau o’r digwydd ar ffurf MP3 yma:

Y Ddarlith (61Mb)

Y Sesiwn Holi ac Ateb (22Mb)

Darlith Addysg Cymru 2008

Cynhaliwyd Darlith Addysgu Cymru nos Lun 10 Tachwedd yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd.

Shirley_WilliamsCafodd y Ddarlith, a fu’n dwyn y teitl ‘Ysgolion yn y gymuned: canolgylch newid’, ei thraethu gan yr Athro Shirley Williams.

Gellir gwrando ar recordiad o’r Ddarlith ar ffurf MP3 yma (43Mb), bydd testun y ddarlith ar gael maes o law here (PDF k).

Gellir darllen y datganiad i’r wasg, “Y Farwnes Williams yn pryderu bod y cwricwlwm yn ffrwyno creadigrwydd athrawon – ond ddim yng Nghymru”, yma.

Darlith Addysg Cymru 2007

Estelle_MorrisAr 1 Hydref 2007, cafodd Darlith Addysg Cymru ei thraethu gan y Farwnes Estelle Morris yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Y Farwnes Estelle Morris

Yn gyn-athrawes, daeth Estelle Morris yn Aelod Seneddol ym 1992 a chafodd ei dyrchafu i swydd llefarydd yr wrthblaid dros Addysg a Chyflogaeth, cyn dod yn Is-ysgrifennydd Seneddol dros Safonau Ysgolion, ac yn Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau. Ymddiswyddodd yn gyhoeddus o’i swydd fel yr Ysgrifennydd Addysg yn 2002, ar ôl datgan ymrwymiad i’r Ysgrifennydd Addysg Cysgodol Ceidwadol ar y pryd y byddai’n ymddiswyddo os na fyddai’r targedau llythrennedd a rhifedd yn cael eu bodloni. Daeth yn Weinidog dros y Celfyddydau yn 2003, cyn camu i lawr o’r llywodraeth ac fel Aelod Seneddol yn etholiad cyffredinol 2005. Dyrchafwyd Estelle Morris i Dyˆ’r Arglwyddi, yn Farwnes Morris o Yardley, yn 2005.

Y Farwnes Morris yw Llywydd y National Children’s Bureau ar hyn o bryd, sef sefydliad elusennol sy’n gweithredu fel corff ymbarél ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

I wrando ar fersiwn MP3 o’r ddarlith neu i’w lawrlwytho, cliciwch yma. Ceir testun i gyd-fynd â’r ddarltih yma (PDF 468K).

Darlith Addysg Cymru 2006

WNS_WALES_EDUCATION_LECTURE_19Traddodwyd Darlith Addysg Cymru 2006 gan yr arloeswraig ym maes Anghenion Addysgol Arbennig, y Farwnes Mary Warnock, ar 2 Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd. Gerbron cynulleidfa o dros 320 o ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi addysg yng Nghymru, bu’ r Farwnes yn dadlau nad yw’ r ddarpariaeth bresennol ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn y DU yn gweithio, ac yn cynnig ei syniadau ynghylch yr atebion mwyaf effeithiol ar gyfer y dyfodol.

I ddadlwytho podlediad o’ r ddarlith, neu i wrando arno, cliciwch yma ac i wrando ar y sesiwn gwestiynau, cliciwch yma. Ceir copi printiedig o ’r ddarlith cyn bo hir. yma (PDF 1.1Mb).

Darlith Addysg Cymru 2005

Tim_Brighouse

Ar 2 Hydref 2005, traddododd yr Athro Tim Brighouse, Prif Gynghorydd Ysgolion Llundain, Ddarltih Addysg Cymru 2005 yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd.

O dan y teitl ‘Athrawon: gorau arf y gyfundrefn’, bu’r Athro Brighouse yn siarad am nodweddion yr athro eithriadol o lwyddiannus o flaen cynulleidfa o dros 120 o athrawon a gwyr gwadd.

Gallwch weld testun y ddarlith drwy glicio yma. Nodwch y bydd angen Nodwch y bydd angen Macromedia Flash fersiwn 8 arnoch er mwyn gweld y fideo hwnarnoch. (Gellir lawrlwytho hyn am ddim o wefan Macromedia drwy glicio yma).

Gellir lawrlwytho copi o’r ddarlith drwy glicio yma (PDF 151k)

Darlith Addysg Cymru 2004

John_Andrews

Cynhaliwyd Darlith Addysg Cymru, y gyntaf o’i math, nos Lun 4ydd Hydref 2004 yn yr Amgueddfa a’r Oriel Genedlaethol, Parc Cathays, Caerdydd.

Mynychwyd y digwyddiad agoriadol a drefnwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gan westeion amlwg y byd addysg: yn eu plith roedd Gweinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, Aelodau’r Cynulliad, Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau addysg lleol, swyddogion undebau athrawon, llunwyr polisi, arweinwyr Addysg Uwch ac Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon, penaethiaid ac athrawon.

Esboniodd Prif Weithredwr CyngACC, Gary Brace: “Roedd y nod i greu dyddiad allweddol yn y calendr addysgol i dynnu’r holl reiny sy’n dylanwadu ar ac yn cyflwyno addysg yng Nghymru at ei gilydd i drafod materion cyfredol yng ngoleuni agenda addysg gynyddol unigryw yng Nghymru.

“Mae Darlith Addysg Cymru’n ymwneud gymaint â chlywed am syniadau dyfeisgar newydd a thrafod y meddylfryd cyfredol ag y mae’n ymwneud â rhoi cyfle i’r rheiny sy’n gweithio ym maes addysg ddod at ei gilydd a rhyngweithio.

“Y gobaith yw y bydd y ddarlith flynyddol, y gyntaf o’i math, yn troi’n ddigwyddiad ‘hanfodol’ ar gyfer yr holl reiny â diddordeb mewn llunio dyfodol ein system addysg.”

Agorwyd y gyfres gan yr Athro John Andrews CBE, cyn-gadeirydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, gyda’r pwnc ‘Addysgu Yfory’, gan archwilio’r sialensau sy’n wynebu’r proffesiwn addysgu a’r system addysg yng Nghymru.

Defnyddiodd John Andrews y ddarlith I ddadlau bod athrawon yn cael eu “gorweithio a’u tanddefnyddio” ac I barhau â’r ddadl ynghylch materion recriwtio a chadw athrawon gan gynnwys y cyflenwad gormodol o athrawon cynradd a’r duedd gynyddol tuag at ymddeol yn gynnar o’r maes addysgu.

Trafododd hefyd y materion allweddol a fydd yn wynebu athrawon yn y dyfodol: y rôl ehangach i ysgolion mewn addysg barhaus yn y gymuned leol; sut bydd camau technolegol yn dylanwadu ar ddulliau addysgu yn y dyfodol; rôl athrawon fel ‘rheolwyr dysg’ a phwysigrwydd rhwydweithiau addysgu I rannu arfer gorau.

Gellir lawrlwytho copi o’r ddarltih drwy glicio yma (PDF 540k)

Cysylltwch â ni

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
9fed Llawr, Eastgate House
35-43 Ffordd Casnewydd
Caerdydd, CF24 0AB

Ffôn: 029 2046 0099
Ffacs: 029 2047 5850
Twitter: http://twitter.com/#gtcwales
E-bost: gwybodaeth@gtcw.org.uk neu