Cyllid Sefydlu

Pan fydd ysgol a gynhelir yng Nghymru yn penodi Athro Newydd Gymhwyso (ANG) am gyfnod o gyflogaeth a fydd yn cyfrif tuag at gyfnod Sefydlu'r ANG, yna bydd rhaid i’r ysgol gymryd y camau canlynol er mwyn sicrhau bod y cyllid priodol yn cael ei ryddhau i’r ysgol

CAM 1 Pan benodir yr ANG dylai’r ysgol gyflwyno Cofnod Sefydlu ANG i GyngACC pan benodir ANG, ond ar yr hwyraf o fewn 10 diwrnod gwaith pan fydd y cyfnod cyflogaeth a fydd yn cyfrif tuag at Sefydlu yn dechrau.
CAM 2 Ar ôl i athro gwblhau tymor Sefydlu, dylai’r ysgol gyflwyno Cofnod Asesu Sefydlu i’r Cydlynydd Sefydlu yn yr AALl (yr AALl yw’r Corff Priodol ar gyfer Sefydlu).

Mae gan AALlau drefniadau lleol ar waith mewn perthynas â’r dyddiad ar gyfer dychwelyd Cofnodion Asesu Sefydlu; mae hyn er mwyn caniatáu i’r AALl gael amser i ymgymryd â’u rôl fel y Corff Priodol ar gyfer Sefydlu ac yna rhoi gwybod i GyngACC am unigolion sy’n cwblhau tymor Sefydlu erbyn y dyddiad priodol.

Pan dderbynnir yr hysbysiadau gan yr AALl, bydd CyngACC yn rhyddhau cyllid i’r ysgol.

Nodwch y dyddiadau isod, sef y dyddiadau i AALlau gyflwyno’r wybodaeth briodol i GyngACC, ar gais y Cyngor. Os nad yw’r ysgol yn cyflwyno’r gwaith papur i GyngACC erbyn y dyddiadau hyn, ni fydd CyngACC yn gallu rhyddhau’r cyllid Sefydlu i’r ysgol.

TYMOR

DYDDIAD Y DYLAI’R AALl DDYCHWELYD GWYBODAETH SEFYDLU I GyngACC

Haf 2008

Awst 2008

Hydref 2008

Ionawr 2009

Gwanwyn 2008
Ebrill 2009

Mae ragor o wybodaeth ar gael yn ymwneud â chyllid ar gyfer DPC a’r raglen DPC yn gyffredinol wrth clicio yma.

Gwaith papur sydd ei angen er mwyn sicrhau bod Cyllid Sefydlu yn cael ei ryddhau

Rhestr wirio

  • Cyflwyno Cofnod Sefydlu ANG i GyngACC.
  • Cyflwyno Cofnod Asesu Sefydlu i AALl pan fydd yr ANG yn cwblhau tymor o Sefydlu
Yna caiff cyllid ei ryddhau i’r ysgol gan GyngACC (bob tymor ac yn ôl-weithredol), ar ôl derbyn hysbysiad gan yr AALl i’r ANG gwblhau tymor o Sefydlu

 

Gwybodaeth a dogfennau eraill

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â rheolau, rheoliadau neu reolaeth y rhaglen Sefydlu sy’n ymwneud yn benodol ag athro/athrawes unigol, yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’r Cydlynydd Sefydlu yn yr AALl, sy’n gweithredu fel y Corff Priodol ar gyfer Sefydlu.

 Fel arall, os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â’r rhaglenni Sefydlu a DPC, dylech gysylltu â Thîm Sefydlu a DPC Llywodraeth Cynulliad Cymru (Yr Is-adran Ymarferwyr).

Yr Is-adran gwelliant dysgu & Datblygiad Proffesiynol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 3205 or 029 2080 1389
Ffacs: 029 20826109
e-bost: inductioninfo@wales.gsi.gov.uk


Cysylltiadau

Dylid cyfeirio ymholiadau mewn perthynas â chyllid ar gyfer Sefydlu a DPC at Dîm Cyllido Sefydlu a DPC gan ddefnyddio un o’r opsiynau isod:

* Cyfeiriad – Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, 4 ydd Llawr, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
* Ffôn - 029 20550350
* Ffacs - 029 20550360
* E-bost – sefydlu&dpc@gtcw.org.uk