Text Size

Rhaglen Gyllido DPP 2009 - 2010

cpd_info_bookMae’r Cyngor yn gweinyddu’r rhaglen gyllido DPP â ffocws unigol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Cynulliad yn rhyddhau cyllid o £3 miliwn bob blwyddyn, sy’n galluogi’r Cyngor i gymeradwyo’r ceisiadau gan tua 4,500 o athrawon.

A cheisiadau gan athrawon yn cynyddu'n sylweddol bob blwyddyn a dim newid yn y cyllid a ddarperir gan y Cynulliad, bu angen i'r Cyngor wneud nifer o fân ddiwygiadau ar gyfer 2009-10 er mwyn creu cydbwysedd gwell rhwng nifer y ceisiadau a chyfanswm y cyllid sydd ar gael. Gellir gweld manylion y gofyniadau newid ar gyfer cyllid yn Llyfryn Gwybodaeth y Rhaglen Gyllido DPP.

eligibility_button_cym download_button_cym

Cliciwch y cyswllt priodol i gael mynediad i gategori’r prosiect y mae gennych ddiddordeb ynddo

bursary_button_cym arp_button_cym sab_button_cym network_button_cym

Os oes gennych gwestiwn am unrhyw ran o’r Rhaglen Gyllido DPP gwelwch y tudalen Cwestiynau Cyffredin (FAQs) neu cysylltwch â ni’n uniongyrchol.

Nodwch fod rhaid defnyddio Adobe Acrobat Reader i ddarllen ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe yn rhad ac am ddim oddi yma.

Cefndir

Er 2001, mae’r Cyngor yn gyfrifol am weinyddu Rhaglen Gyllido DPP ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y Rhaglen Gyllido yn rhoi cyfle i athrawon nodi eu hanghenion datblygiad proffesiynol eu hunain. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhyddhau’r cyllid canlynol i ategu’r rhaglen hon.

2009-2010 - £3 Miliwn
2010-2011 - £3 Miliwn (drafft)

Cyfleodd Lledaenu

Mae’r Cyngor yn trefnu nifer o gyfleoedd lledaenu yn ystod y flwyddyn er mwyn rhannu buddion datblygiad proffesiynol o safon uchel.

I weld manylion y gweithgareddau sydd ar y gweill, neu i gael gwybodaeth ynghylch sut i drefnu digwyddiad, ewch i’n tudalen cyfleoedd lledaenu.

Adnodd Adroddiadau

Mae'r Adnodd Adroddiadau DPP yn gyfnodolyn sy’n cynnwys myfyrdod proffesiynol athrawon yng Nghymru sydd wedi ymgymryd â gweithgareddau datblygiad proffesiynol o dan brosiectau Datblygiad Proffesiynol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

Cliciwch yma i weld yr Adnodd Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Prosiectau Peilot

Comisiynodd y Cyngor werthusiadau annibynnol o'r Prosiectau Peilot – cliciwch yma i weld rhagor o wybodaeth.