
DATGANIAD I’R WASG
30 Hydref 2007
Cynllun Peilot Athro Siartredig Dan Ei Sang, Ar Ddechrau
Fe wnaeth tri ar ddeg o athrawon o ledled Cymru ymgynnull yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe; cyfranogwyr cyntaf y cynllun peilot Athro Siartredig hir ddisgwyliedig sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC).
Bydd y cynllun peilot sy’n cael ei gynnal dros gyfnod o ddwy flwyddyn ysgol, yn profi bob un o’r modiwlau arfaethedig a addysgir a fydd yn ffurfio sylfaen meincnod clodfawr yr Athro Siartredig. Fel rhan o’r fframwaith datblygiad proffesiynol ehangach, nod yr Athro Siartredig sy’n garreg filltir yw cynnig llwybr mwy strwythuredig a chydlynol o ran datblygiad proffesiynol i athrawon drwy gydol eu gyrfaoedd. Fe fydd gan athrawon hefyd yr opsiwn o lwybr nas addysgir neu lwybr Achredu a byddant yn medru dewis cyflwyno portffolio o waith i ddangos eu bod nhw’n bodloni’r meini prawf sy’n ddisgwyliedig gan Athro Siartredig.
Mae’r peilot cyntaf a addysgir sy’n dwyn yr enw ‘Datrys wrth Drafod’, wedi derbyn sylw aruthrol gan athrawon, syn arwydd o boblogrwydd y Statws Athro Siartredig arfaethedig ymhlith y proffesiwn.
Mae’r modiwl ‘Datrys wrth Drafod’ a ddarperir gan Athrofa Addysg Uwch Gogledd Cymru (NEWI), Athrofa Addysg Uwch Abertawe (SIHE) a’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, yn cynnwys 150 o oriau dysgu, ac mae’n agored i arweinwyr canol a/neu athrawon dosbarth. Fe fydd yn archwilio’r materion sy’n ymwneud â siarad a gwrando mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn canolbwyntio ar y cyswllt rhwng datblygu sgiliau llefaredd a dealltwriaeth disgyblion. Mae’r modiwl yn defnyddio ymagwedd ddysgu ‘gyfun’ sy’n cynnwys darlithoedd, gweithdai ymarferol a chymorth tiwtorial, ynghyd a gweithredu’n seiliedig ar ymholiad yn ysgolion yr athrawon eu hun.
Meddai Ann Birch, Athrofa Addysg Uwch Abertawe: “Mae’r modiwl Datrys wrth Drafod yn canfod yr anawsterau y mae disgyblion yn eu hwynebu yn y maes hwn ac yn adolygu’r amrywiaeth o strategaethau sydd ar gael ar gyfer cynyddu statws ac effaith llefaredd mewn ymagweddau ysgol gyfan ac wrth addysgu ar draws y cwricwlwm. Y nod yw, bod y rheiny sy’n dilyn y cwrs hwn mewn gwell sefyllfa i gefnogi disgyblion syn tangyflawni yn eu dosbarthiadau eu hun, a chyfrannu at ffyrdd o goethi a gwella’r strategaethau a ddefnyddir gan yr ysgol i hyrwyddo meddwl a dealltwriaeth drwy lefaredd.”
Dywedodd Hayden Llewellyn, dirprwy brif weithredwr CyngACC: “Roeddem wrth ein bodd â’r diddordeb a ddangoswyd ym mheilot y Statws Athro Siartredig ac o ganlyniad gor-danysgrifiwyd y modiwl cyntaf. Nod y modiwl Datrys wrth Drafod yw rhoi cyfleoedd i’r rheiny sy’n cymryd rhan i ddatblygu’n broffesiynol mewn meysydd sydd o ddiddordeb iddynt hwy, tra y byddant yn chwarae rhan gyfrannol yn natblygiad y rhaglen Statws Athro Siartredig.”
Ychwanegodd Debbie Spiers, athrawes Wyddoniaeth yn Ysgol Coed Cae, Llanelli, sy’n un o’r tri ar ddeg athro a ddewiswyd i gymryd rhan yn y peilot: “Mae’n wir anrhydedd i fod yn rhan o’r peilot hwn ac i fod mewn sefyllfa i ffurfio natur y rhaglen Statws Athro Siartredig ar gyfer y proffesiwn addysgu yng Nghymru.
”Fe fydd y modiwl Datrys wrth Drafod yn rhoi cyfle i mi fynd yn ôl at bethau sylfaenol a dysgu strategaethau a fydd yn helpu fy nisgyblion i ddysgu. Yn y pen draw, fel athrawes does yna ddim sy’n fwy boddhaol na’r ffaith bod eich disgyblion yn deall yr hyn yr ydych yn ceisio ei ddysgu iddynt.”
Ychwanegodd Mike Chapman, athro yn Ysgol Gynradd Oakfield, Y Barri: “Mae peilot y Statws Athro Siartredig yn ddatblygiad proffesiynol gwerthfawr a fydd yn gwella a datblygu arfer athrawon yn yr ystafell ddosbarth, rhywbeth sydd ddim ar gael i athrawon sydd ynghanol eu gyrfaoedd.”
‘Datrys wrth Drafod’ yw’r cyntaf o nifer o fodiwlau a gynigir drwy’r peilot a fydd yn profi gwahanol agweddau o’r rhaglen Athro Siartredig, sef, dau brif lwybr - llwybr a ‘addysgir’ a llwybr achrededig a fydd yn galluogi athrawon i dderbyn credyd ar gyfer eu datblygiad a’u harfer proffesiynol. Fe fydd ‘Datrys wrth Drafod’ yn rhan o’r llwybr a addysgir.
Am wybodaeth bellach ynglŷn â pheilot Statws Athro Siartredig neu Fframwaith Datblygiad Proffesiynol CyngACC, cysylltwch â Hayden Llewellyn ar 029 2055 0350.