
DATGANIAD I’R WASG
18 Ionawr 2008
RHAGLEN BEILOT ATHRO SIARTREDIG YN PARHAU
Fe wnaeth rhaglen beilot Athro Siartredig yng Nghymru barhau'r wythnos ddiwethaf pan lansiwyd y modiwl diweddaraf, Gwella Arfer Drwy Ymchwil Gweithredu¹ a oedd yn cynnwys 11 o athrawon cynradd ac uwchradd o saith awdurdod lleol yng Nghymru.
‘Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen beilot Athro Siartredig yng Nghymru. Mi fydd modiwl peilot UWIC yn galluogi’r athrawon sy’n cymryd rhan, i dderbyn gwybodaeth a datblygu sgiliau i ymchwilio’u harfer addysgu eu hun a chynllunio’r ffordd ymlaen. Mi fydd hyn yn cynnwys ymgyfarwyddo â chasglu data, ymchwil ar sail gweithredu, dadansoddi data a’i ledaenu. Mi fydd athrawon sy’n cwblhau’r modiwl nid yn unig yn datblygu eu modd o addysgu, ond byddant hefyd yn ennill credydau tuag at radd Meistr'. meddai Anne Hughes, Cyfarwyddwr Menter, adeg diwrnod cyntaf y peilot yn Ysgol Addysg Caerdydd, Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC).
Mae Katie Sadlet o Ysgol Bro Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr yn addysgu blwyddyn 2 babanod, meddai; ³Bu heddiw’n gyfle da i gwrdd, a rhannu profiadau gydag athrawon o wahanol gefndiroedd ac Awdurdodau Addysg Lleol, gyda phawb yn rhannu’r un amcan, sef codi safonau addysgu.
Fel athrawes gynradd cyfrwng Cymraeg, gall fy nghyswllt â chyd athrawon fod yn gyfyng ar adegau. Teimlaf anrhydedd mawr wrth gymryd rhan yn y rhaglen hon gan ei bod yn gyfle gwych i barhau â fy natblygiad proffesiynol. Byddaf heb os, yn dychwelyd i’r ysgol gyda phersbectif ehangach o ran addysgu.
Meddai Veronica Arora, Pennaeth Dyniaethau a Daearyddiaeth yn Ysgol Gyfun Bryn Hafren; ³Rwy’n falch fy mod yn medru datblygu fy NPP ymhellach yn y ffordd yma. Bydd y cyfle i fyfyrio ar y ffordd rwy’n addysgu ar hyn o bryd, ac ennill dealltwriaeth o ddulliau addysgu newydd yn ogystal â rhai gwahanol, yn werthfawr iawn. Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at ddefnyddio fy sgiliau newydd yn yr ystafell ddosbarth².
Dywedodd Hayden Llewellyn, Dirprwy Brif Weithredwr CyngACC; ³Mae’r modiwl diweddaraf yn
nodi cam pellach yn y rhaglen beilot Athro Siartredig hirddisgwyliedig yng Nghymru. Daeth y peilot cyntaf Datrys wrth Drafod¹ yn Athrofa Abertawe ac Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru i ben yn ddiweddar, a bu’n llwyddiant mawr ymhlith athrawon. Mae’r adborth cyntaf gan yr athrawon yn UWIC yn gadarnhaol iawn²
Am wybodaeth bellach ynglŷn â rhaglen beilot statws Athro Siartredig, neu i drafod rhaglen ddatblygu broffesiynol CyngACC¹ cysylltwch â Hayden Llewellyn ar 02920 550350.