DATGANIAD I’R WASG

25 Ebrill 2008

Darpar Athrawon Siartredig yn dysgu’r pwysigrwydd o Hunan-fyfyrio

Fel rhan o gynllun peilot Athro Siartredig Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, fe gafodd athrawon sy’n ymgymryd â ’r modiwl hunanwerthuso a hunan-fyfyrio, y cyfle i gyfweld penaethiaid yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin yn ddiweddar.

Mae’r modiwl yn rhan o’r rhaglen beilot Athro Siartredig sy’n anelu i roi llwybr mwy strwythuredig a chydlynol o ran datblygiad proffesiynol i athrawon drwy gydol eu gyrfaoedd. Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen yn peilota dau brif lwybr tuag at ddod yn Athro Siartredig, llwybr a addysgir a llwybr achrededig. Mae’r modiwl hunanwerthuso a hunan-fyfyrio yn rhan o’r llwybr a addysgir ac yn cael ei drefnu gan Gonsortiwm De a Chanolbarth Cymru (SWAMWAC).

Fe wnaeth y sesiwn yng Nghaerfyrddin ganolbwyntio ar bwysigrwydd cynllun datblygu personol i alluogi athrawon i fyfyrio ar eu galluoedd personol a’u cryfderau, felly’n eu caniatáu i edrych ar eu gyrfa mewn ffordd onest a gwrthrychol.

Meddai Andi Morgan, cydlynydd ar y cyd gyda chyfrifoldeb am y rhaglen gweithgareddau; “Fe wnaeth y digwyddiad amlygu ysbryd y grŵp ac ymagwedd ymarferol y cyfranogwyr. Roeddem ni am i’r modiwl fod yn seiliedig ar drafodaeth ac fe wnaeth y grŵp fanteisio i’r eithaf ar y deunydd. Rwyf wirioneddol o’r farn bod y digwyddiad wedi ysbrydoli athrawon a herio’u parth cysurus tra’n annog archwilio a dysgu yn y gwaith.”

Nod y modiwl oedd caniatáu athrawon i gamu yn ôl ac ystyried eu hunain yn ddysgwyr a bod gwelliant a datblygiad personol yn effeithio ar addysg disgyblion ac ansawdd yr addysgu. Roedd yna hefyd ffocws ar arweinyddiaeth, yr hyn sy’n gwneud arweinydd da, gwahanol arddulliau arweinyddiaeth a hefyd y manteision o gydweithio a gwaith tîm.

Ychwanegodd Seamus O’Sullivan, pennaeth hanes yn `Ysgol Gyfun Aberaeron; “Heddiw, rwy’n teimlo fy mod i wedi medru atgyfnerthu fy nealltwriaeth o arweinyddiaeth mewn ysgol uwchradd, ac mae hyn wedi fy ngalluogi i feddwl am ddatblygu fy ngyrfa, gan symud o bosib i’r maes uwch rheoli. Roedd hyn hefyd yn gyfle diddorol i siarad ag athrawon cynradd ynghylch eu safbwynt ar y cwricwlwm.”

Daeth y sesiwn i ben gyda’r cyfranogwyr yn cyfweld penaethiaid, ac mewn grwpiau bach fe wnaethant ddyfeisio cyfres o gwestiynau’n ymwneud ag arweinyddiaeth. Un o’r rhai y cyfeiriwyd y cwestiynau atynt oedd Donna Williams, pennaeth Ysgol y Bedol, ac meddai; “Fe gymerais ran er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i athrawon, ar ôl derbyn llawer o help fy hun gan eraill yn ystod fy ngyrfa. Mae’r sefyllfa sydd ohoni heddiw yn nhermau DPP yn golygu bod athrawon yn paratoi’n dda ar gyfer arweinyddiaeth, yn enwedig o ran cymwysterau a safonau i benaethiaid. Rwy’n siarad o brofiad, gan fod cyfnod o dros 20 mlynedd fel pennaeth yn golygu fy mod wedi gorfod dysgu drwy brofiad wrth i fy ngyrfa ddatblygu.”

Meddai Lucy Cowley, athrawes ysgol gynradd yn Ysgol Gymunedol Neyland; “Bu’r modiwl yn addysgiadol iawn o ran disgwyliadau ac anghenion athrawon siartredig yn y dyfodol yn ogystal â’r wybodaeth a gafwyd yn nhermau arweinyddiaeth a rheolaeth. Roedd y cyfweliadau gyda’r penaethiaid yn ffordd fwy ymarferol a threuliadwy o ddysgu.”

Yn dilyn y cyfweliadau fe wnaeth y grwpiau bach rhoi adborth i’r cyfranogwyr a chafwyd cyfle i drafod yr hyn a ddarganfuwyd ar y cyd, cyfnewid arsylwadau a darganfyddiadau defnyddiol yn ogystal â myfyrio ar anghenion penaethiaid.

I gloi, meddai Lynne Walters, cydlynydd y digwyddiad; “Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn, fe gododd trafodaethau a dadleuon diddorol yn sgil y gweithgareddau, ac fe wnaeth yr athrawon a gyfranogodd ddod ymlaen yn dda iawn yng nghwmni’i gilydd, gan rannu eu profiadau personol o ledled y sector cynradd ac uwchradd o wahanol ranbarthau yng Nghymru. Mae pawb a gymrodd rhan yn awyddus iawn i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd yn eu gyrfaoedd addysgu er mwyn cyfoethogi a meithrin gwelliant.”