ADDYSGU: Y PROFFESIWN DYSGU

Araith gan Gary Brace, Prif Weithredwr, Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yng nghinio Ysgol Addysg APCC, 17 Ebrill 2008

Cyflwyniad

Gweinidog, Cadeirydd, Is-Ganghellor, boneddigion a boneddigesau, diolch ichi am estyn gwahoddiad i mi gyflwyno'r araith heno. Mae'n fraint ac yn anrhydedd eich bod wedi gofyn imi.

Mae gennym lawer i fod yn falch ohono o ran y darlun sy'n datblygu o broffesiynoldeb athrawon yng Nghymru ac rydych chi yn Ysgol Addysg APCC wedi cyfrannu llawer at y cyfeiriad a ddilynir, ac yn parhau i wneud.

Wrth gwrs, dim ond wyth mlynedd yn ôl byddai'r syniad o wrando ar araith fel hon gan rywun o'r corff proffesiynol ar gyfer addysgu yn hollol hurt. Mae llawer wedi digwydd ers yr adeg honno, ac er bod un undeb yn parhau i leisio'i wrthwynebiad i bron bopeth a wnaiff y Cyngor (wedi dweud hynny, mae'r un undeb hwnnw yn gwrthwynebu popeth a wnaiff pawb - felly rydym i gyd yn yr un cwch!), y gwir amdani yw bod y Cyngor wedi hen sefydlu ei hun erbyn hyn, ac, ochr yn ochr â'i swyddogaethau rheoleiddio a gweithredol, credaf fod CyngAC wedi darparu arweinyddiaeth genedlaethol wrth symud addysgu fel proffesiwn yn ei flaen yng Nghymru mewn byr amser.

Gobeithio y maddeuwch i mi am gyfeirio'n ddigyfnewid at 'waith y Cyngor' a 'datblygu'r proffesiwn' o bryd i'w gilydd. Yn wir, datblygiad y proffesiwn er budd disgyblion a'r cyhoedd yw'r rheswm dros ei fodolaeth, ac, yn amlach na pheidio, dyna yw meddylfryd naturiol y Cyngor wrth fynd ati yn ei waith. I ddyfynnu un o ddau nod y Cyngor yn y Ddeddf Seneddol a'i sefydlodd, mae'n naturiol ein bod yn meddwl am "wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu". Fy marn i erioed yw bod y Cyngor yn gwneud pethau ar ran y proffesiwn yn hytrach nag i'r proffesiwn. Yn wir, rhan o'r hyn a ddywedaf am y cyfeiriad y mae'r proffesiwn yn ei ddilyn yw'r hyn rydym ni fel Cyngor eisoes wedi'i argymell neu dyna ein barn am sut dylai pethau fod.

Rwy'n dadlau ein bod yng nghanol newid diwylliannol anferth yn y proffesiwn, a dyma nodweddion y newid hwnnw:

Disgwyliadau proffesiynol fel yr oeddent

Ond, wrth gwrs, nid oes amser hir ers y dyddiau pan mai Statws Athro Cymwys (SAC) oedd diwedd y gân - o leiaf yn nhermau polisi cenedlaethol ac arfer lleol. Yn wir, fel athro newydd fy hun ganol y 70au, roeddwn yn teimlo fy mod wedi cyflawni'r cyfan pan dderbyniais fy llythyr gan y DES. Atgyfnerthwyd fy nhrahauster gan i mi ennill rhagoriaeth yn fy ymarfer dysgu yn ystod fy mlwyddyn TAR a chael fy nisgrifio fel "myfyriwr neilltuol y flwyddyn" - rhywbeth y cefais fy ngwatwar amdano'n ddidrugaredd am flynyddoedd wedyn gan un o'm cydweithwyr. Roeddwn wedi llunio ymagwedd addysgu oedd yn gweithio i mi ac roeddwn yn fodlon arni, ond nid oes dwywaith y gallai fod wedi ei gwella ymhellach. Y pwynt rwy'n ei wneud yw nad oeddwn yn barod yn fy mlwyddyn TAR i ddisgwyl gyrfa o ddysgu a datblygu gydol oes fy hun. Ac nid oedd disgwyliad ac yn sicr dim deialog yn yr ysgol bod angen cefnogaeth a datblygiad parhaus arnaf - er y cefais ganiatâd i fynychu diwrnodau HMS. Peth gwrthun oedd diwylliant o ddatblygiad proffesiynol. Mae'n wir i mi gael blwyddyn 'brawf' - ond i mi roedd hwn yn brofiad o ran ei enw'n unig - daeth y llythyr yn dweud fy mod wedi llwyddo ar ddiwedd y flwyddyn ar sail y ffaith bod ymgynghorydd o'r AALl nad oeddwn wedi cyfarfod ag ef cyn hynny nac ei weld wedyn, wedi ymweld un waith yn ddirybudd i'm hasesu. Nid rhywbeth unigryw na chyffredin ychwaith, diolch byth, oedd fy mhrofiad i, am fod eraill wedi cael cefnogaeth briodol mewn AALlau eraill. A'r peth ysgytiol amdani yw mai dyma oedd y strwythur proffesiynol ar gyfer addysgu tan ddiwedd y 90au a dechrau'r ganrif hon. Mewn gwirionedd, diflannodd y flwyddyn brawf hyd yn oed yn y 90au.

Ar wahân i'r casgliad anochel mai'r cymhwyster addysgu cychwynnol oedd yr unig beth pwysig, roedd amheuaeth ynghylch ein gallu i feddu ar safonau ôl-gymhwyso neu fod disgwyliadau o athrawon ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd addysgu, a hynny am amrywiol resymau. Yn ôl pob tebyg, byddai'r athrawon 'gwell' (neu'r rhai mwyaf eofn neu'r rhai oedd yn chwarae'r system) yn 'dod i'r brig' drwy ryw fath o ddethol naturiol ac yn dod yn benaethiaid adran, yn uwch athrawon ac yn benaethiaid. Byddai unrhyw ymyrraeth o'r tu allan, yn syml ddigon, yn golygu rhoi rhwystrau yn ffordd athrawon da. Roeddem yn anwybyddu'n noeth y ffaith y gallai athro neu athrawes dda fod yn rheolwr neu'n arweinydd anobeithiol dros athrawon eraill.

Roedd digonedd o Hyfforddiant Mewn Swydd yn ei le wrth gwrs, a pheth darpariaeth ragorol ar ran yr SAU, yn arbennig yn y 70au a dechrau'r 80au ac yn arbennig yn y sector uwchradd - rwy'n meddwl am hyfforddiant a datblygiad oedd ynghlwm wrth brosiectau'r Cyngor Ysgolion, rhywfaint o ddatblygiad meysydd llafur cyn TGAU a chyrsiau byr a hir AEM. Ond mae'r syniad o ddatblygiad proffesiynol yn gysylltiedig â safonau cenedlaethol ar ôl cymhwyso wedi cymryd amser maith i ddechrau treiddio'r ymwybod. Hyd yn oed pan ddaeth i'r amlwg yng nghanol y 90au, nid peth statudol oedd safonau cenedlaethol fel y rhai ar gyfer Cydlynwyr AAA ac arweinwyr pwnc.

Safonau proffesiynol yn awr

Mae'n braf gennyf ddweud ein bod wedi cymryd camau mawrion yn y blynyddoedd diwethaf.

Y disgwyliad newydd cyntaf ar athrawon ar ôl SAC yw Sefydlu statudol. Wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth y Cynulliad yng Nghymru yn 2003, disgwyliwn bellach i bob athro ac athrawes newydd ddangos eu bod yn gallu gwneud y gwaith ar lefel ymarferol am flwyddyn. Mae'n rhaid iddynt ddangos eu bod yn bodloni'r safonau diwedd sefydlu, ond, yr un mor bwysig yw'r systemau cynnal sy'n cael eu llunio i helpu athrawon newydd i wneud hynny a dechrau gyrfa o ddysgu gydol oes - y sicrwydd bod mentor yn yr ysgol a chymorth wedi'i gyllido ar gyfer eu datblygiad proffesiynol a chyfle i gyfarfod â'u mentor yn ystod y flwyddyn. Ond mae'r ffaith bod y safon hon yn bodoli yn gam radical. Rydym wedi symud y postyn gôl pwysig y tu hwnt i SAC drwy ddweud wrth athrawon bod eich cymhwyster yn annigonol i'ch caniatáu i barhau mewn swydd mewn ysgol a gyllidir yn gyhoeddus oni bai i chi fodloni'r safon Sefydlu.

I bwysleisio'r gefnogaeth ymhellach, mae gennym elfen unigryw yng Nghymru o'n cymharu â gweddill y DU am fod sicrwydd o gyllid ar gyfer datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon newydd yn ail a thrydedd flwyddyn eu gyrfaoedd. Mwy am hyn yn y man.

Ar y pegwn arall, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflwyno menter helaeth y Rhaglen Genedlaethol Datblygu Prifathrawiaeth gyda'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) fel y cymhwyster canolog. Mae hyn yn orfodol i bob pennaeth newydd ers 2005. Yr hyn sy'n fy mhlesio am y safonau cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth sy'n sail i'r CPCP yng Nghymru yw'r ffaith bod y pennaeth yn cael ei ddisgrifio fel y 'prif ymarferydd'. Mae'n pwysleisio rôl ganolog y pennaeth wrth arwain addysgu a dysgu. Mae gofyn hefyd i'r pennaeth fod yn athro cofrestredig, gan bwysleisio ymhellach mai arwain dysgu yw'r rôl graidd. Yng Nghymru nid yw'n bosibl penodi pennaeth gweithredol nad yw'n meddu ar gymhwyster addysgu a hir oes i'r egwyddor honno. A, rhag ofn bod perygl bod penaethiaid yn disgyn i'r un fagl ag ANG trahaus a oedd o'r farn na fyddai angen dysgu dim mwy ar ôl cymhwyso, nid yw dysgu proffesiynol yn dod i ben gyda'r CPCP ychwaith - mae cefnogaeth yn parhau drwy'r rhaglen sefydlu ar gyfer penaethiaid newydd yn eu swydd gyntaf.

Mae'r bwlch yn amlwg i bawb. Nid yw mwyafrif helaeth ein hathrawon ar ddechrau eu gyrfaoedd nac yn dyheu am fod yn benaethiaid. Nodwyd yr angen gennym i sefydlu disgwyliadau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr hynod fedrus yr ystafell ddosbarth ac arweinwyr canol i roi sail ar gyfer rhaglenni datblygiad proffesiynol o ansawdd sicr. Nodwyd y disgwyliadau hyn mewn 'safonau Athro Siartredig' gydag arweiniad proffesiynol, sy'n canolbwyntio ar 'wybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol', 'sgiliau proffesiynol ar waith' ac 'ymrwymiad proffesiynol'. Er mai ar ddechrau cyfnod peilot yr ydym ni o hyd, rydym yn derbyn adroddiadau cadarnhaol iawn am fodiwlau cynnar Athro Siartredig. Mae pedwar modiwl peilot wedi'u cwblhau neu'n mynd yn eu blaen ar hyd y llwybr achredu neu'r portffolio. Bydd chwe modiwl peilot pellach yn dechrau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Er enghraifft, mae'n ymddangos bod modiwl APCC "Gwella Arfer drwy Ymchwil Weithredol" wedi taro'r hoelen ar ei phen - gyda'r ffocws ar addysgeg a'r angen i athrawon werthuso effaith eu haddysgu'n gyson. Mae angen i ni ddysgu o werthusiad y peilot (ac os nad oedd yn hysbys, David Egan o Athrofa Ymchwil Addysgol Gymwysedig newydd APCC fydd yn arwain y gwerthusiad), ac mae angen i ni sicrhau bod Athro Siartredig yn gwneud cyfraniad enfawr i helpu athrawon i barhau i ddatblygu'n broffesiynol pan, ac os, fel y dymunaf, fydd y Cyngor yn penderfynu ei gyflwyno i'r brif-ffrwd.

Ac mae ein rhaglen Athro Siartredig yn ateb i Gymru - nid oes rhaglen gyffelyb yn Lloegr ac mae'n wahanol mewn dwy ffordd sylfaenol i gynllun Athro Siartredig yr Alban - nid yw'n gysylltiedig â thâl ac mae'n darparu ar gyfer ymarferwyr yr ystafell ddosbarth ac arweinwyr canol fel ei gilydd.

Felly mae'r tair safon ôl-gymhwyso hyn yn rhai o'r ffactorau allanol sy'n gyrru dysgu proffesiynol parhaus.

Yr hyn sydd ar goll o hyn oll - ar wahân i'r rhaglen Athro Siartredig - yw perchnogaeth y proffesiwn o'r disgwyliadau. Er y gallai arwain at y cyhuddiad o geisio creu ymerodraeth, oni fyddai'n gam radical, er nad yn gam gwrthun, i'r proffesiwn fod yn gyfrifol drwy ei gorff proffesiynol, ac nid drwy'r Llywodraeth, am safonau a sicrhau ansawdd darpariaeth? Wedi'r cyfan, nid yw'n ein poeni ni o gwbl bod cyrff proffesiynol ar gyfer doctoriaid, nyrsys, cyfrifwyr, peirianwyr a llu o broffesiynau eraill yn pennu'r safonau ac yn achredu'r rhaglenni addysg cychwynnol a pharhaus ar gyfer eu proffesiynau. Ond eto i gyd mae'n wahanol am ryw reswm ym maes addysgu - ar wahân i'r Alban (lle gwelwn symudiad radical y flwyddyn nesaf pan fydd CyngACA yn ymddatod yn llwyr o reolaeth y Llywodraeth ac yn gweithredu fel corff proffesiynol cwbl annibynnol). Arbenigedd proffesiynol ac nid polisi'r Llywodraeth ddylai fod yn gyfrifol am nodi'r disgwyliadau proffesiynol.

Realiti arfer yn newid

Nid disgwyliadau proffesiynol a strwythur cefnogaeth yw'r unig bethau sy'n newid. Ochr yn ochr â hyn, mae newidiadau gwirioneddol mewn arfer athrawon a'r ffordd mae athrawon yn meddwl. Mae dyddiau ymerodraeth yr ystafell ddosbarth lle mai'r athro oedd Cesar a lle roedd y lluoedd barbaraidd (sef athrawon eraill yr ysgol!) yn meddiannu'r ffiniau wedi diflannu neu o leiaf wedi diflannu i raddau helaeth. Dim ond angen edrych ar effaith y cynorthwy-ydd dosbarth sy'n rhaid neu'r ymagwedd at y Cyfnod Sylfaenol i weld sut mae athrawon bellach yn gweld eu hunain fel rheolwyr dros ystod ehangach o adnoddau dynol yn yr ystafell ddosbarth. Mae athrawon yn agor eu hystafelloedd dosbarth i'w cydweithwyr eu harsylwi - er bod amharodrwydd i wneud hyn i ddechrau, oherwydd ofn o ddatgelu diffyg gwybodaeth bwnc neu dechneg rheoli'r dosbarth neu sgiliau addysgu. Ond mae athrawon yn ystyried eu hunain fwyfwy fel arbenigwyr o ran eu 'gwybodaeth bwnc unigryw' h.y. yr 'wybodaeth bwnc unigryw' honno am addysgu a'r hyn sy'n gweithio i gymell plant i ddysgu a pharhau i ddatblygu. Dylem ymfalchïo'n fawr yn hyn am ei fod yn cyfrannu at hunanhyder proffesiynol ac yn galluogi rhannu arfer.

Fel CyngAC, rydym wedi bod yn annog rhannu arfer. Er enghraifft, yn y flwyddyn ddiwethaf, neilltuwyd 7% o'r rhaglen gyllido DPP â ffocws unigol sy'n cael ei gweinyddu gennym ar ran Llywodraeth y Cynulliad er mwyn i athrawon ledaenu eu profiadau dysgu proffesiynol. Mae'r rhain wedi cynnwys digwyddiadau yn gweithio ar y cyd ag AALlau, SAU a sefydliadau eraill i ddarparu llwyfan ar gyfer athrawon sydd wedi datblygu eu harfer eu hunain drwy'r cyllid datblygiad proffesiynol, er mwyn rhannu eu dysgu gyda chydweithwyr eraill. Mae hyn, yn ei dro, wedi annog mynychwyr y naw digwyddiad a drefnwyd ar y cyd gennym i roi cynnig ar bethau tebyg eu hunain neu gael eu cymell i fentro i faes DPP. Ein nod yw cynnal rhyw fath o ddigwyddiad i ledaenu dysgu proffesiynol ledled Cymru yn ystod ein blwyddyn weithredol bresennol. Bydd CyngAC yn cynnal digwyddiad cenedlaethol unigryw sy'n canolbwyntio ar thema broffesiynol gyffredinol - lle bydd athrawon yn gallu rhannu eu dysgu proffesiynol ar draws ffiniau AALlau.

Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi o'r ffordd gallwn weld newidiadau gwirioneddol yn ymagwedd athrawon at eu datblygiad a'u dysgu.

Yn gyntaf, ein hathrawon newydd. Fel Ysgol Addysg, byddwch i gyd yn ymwybodol o'r rhain wrth gwrs. Mae Mal Davies, pennaeth Ysgol Uwchradd Willows yma yng Nghaerdydd a Chadeirydd CyngACC o'r farn mai'r athrawon a ddaeth i'w ysgol yn y blynyddoedd diwethaf yw'r gorau a gafodd erioed. Mae eu brwdfrydedd, eu parodrwydd a'u hymrwymiad heb eu hail. Mae hyn yn argoeli'n dda at y dyfodol. Ac, wrth gwrs, gyda blwyddyn Sefydlu statudol wedi'i dilyn gan hawl i 2 flynedd o Ddatblygiad Proffesiynol Cynnar, maent yn disgwyl mai megis dechrau mae eu dysgu proffesiynol. Mae ganddynt ddisgwyliadau o gael eu cefnogi a chael cyfleoedd drwy gydol eu gyrfaoedd proffesiynol a fydd yn datblygu eu huchelgeisiau proffesiynol a gyrfaol eu hunain.

Mae ychydig o dan 5000 o athrawon gennym erbyn hyn sydd wedi'u cefnogi i fodloni'r safonau sefydlu statudol ers eu cyflwyno yn 2003. Petai'r rhain i gyd yn addysgu o hyd, byddai'n golygu bod rhyw 15% o'n hathrawon eisoes wedi cael eu cefnogi ar ddechrau eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn codi ar gyfradd o ryw 1000 o athrawon y flwyddyn.

Dywedodd un athrawes yn ei blwyddyn sefydlu, wrth gyfeirio at ei gweithgareddau datblygiad proffesiynol, eu bod "wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau yn yr ystafell ddosbarth a sylweddoli pa feysydd mae angen i mi weithio arnynt. Mae hyn, yn ei dro, wedi gwella fy hyder a'm gwneud yn awyddus i barhau i ddatblygu fy addysgu." Pan holwyd un athro Cymraeg uwchradd yn ei drydedd flwyddyn o addysgu, dywedodd y canlynol am werth ei brofiad datblygiad proffesiynol cynnar "Mae DPC wedi gwneud i mi sylweddoli y byddaf yn dysgu am byth, gan newid a datblygu er gwell a hynny er budd addysg ein plant." Soniodd un athro hanes uwchradd yn ei drydedd flwyddyn am y cyfle i athrawon "gymryd cam yn ôl ac adfyfyrio am eu harfer addysgu. Mae addysgu yn broffesiwn byrlymus ac mae'r cyfle i gymryd hoe o'r amgylchedd hwnnw am fymryn yn caniatáu i chi bwyso a mesur a datblygu strategaethau ar gyfer symud ymlaen".

Mae systemau cefnogi sefydlu a DPC hefyd yn cryfhau rôl y mentor yn yr ysgol drwy atgyfnerthu'r diwylliant o ddysgu proffesiynol yn yr ysgol. Rydym hefyd wedi ceisio adlewyrchu swyddogaeth bwysig mentora yn y safonau Athro Siartredig, er enghraifft, bydd Athrawon Siartredig "yn cymryd rôl arweiniol o roi cyngor i gydweithwyr a'u cynorthwyo i greu a chynnal hinsawdd gadarnhaol ar gyfer dysgu".

Yn ail, mae athrawon mwy profiadol wedi elwa ar y rhaglen gyllido â ffocws unigol a weinyddir gan GyncAC ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ers 2001. Mae mwy na 25,000 o gyfleoedd i gael cyllid wedi'u cymryd - 5,800 yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Ac mae'n amlwg bod cael rheolaeth dros eich dysgu proffesiynol a chael y cyllid i hwyluso hynny yn cael effaith caseg eira. Ym mlwyddyn 2006-07, roedd ychydig o dan 50% o'r athrawon a wnaeth gais am gyllid wedi gwneud cais o leiaf unwaith o'r blaen yn ystod y pedair blynedd cynt.

Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi o'r ffordd mae anghenion unigol yn sgil deialog broffesiynol yn y broses rheoli perfformiad yn arwain at amrywiol fathau o weithgarwch. Rydym wedi gweld meysydd gweithgarwch yn cynyddu ac yn gostwng dros y blynyddoedd i adlewyrchu pa mor gyfarwydd neu anghyfarwydd mae athrawon gyda rhai materion. Nid yw'n syndod bod asesu'n un o'r elfennau cryf i ddod i'r amlwg yn y blynyddoedd diwethaf, felly mae'r enghreifftiau a roddaf i chi yn awr wedi'u tynnu o'r maes hwn.

Datblygodd cydlynydd Saesneg uwchradd o Ogledd Cymru ei sgiliau mewn asesu darllen drwy ddefnyddio Deunyddiau Asesu Dewisol CA2 ACCAC gynt. Arweiniodd hyn at lefel uwch o gymedroli yn yr adran a phortffolio, ynghyd â safoni gwell ar draws y cyfnod pontio rhwng y cynradd a'r uwchradd.

Datblygodd nifer o athrawon mewn ysgolion cynradd yng Ngogledd Cymru strategaethau ar gyfer asesu ffurfiannol drwy arsylwi arfer da mewn ysgolion a chodi'r proffil ar gyfer sgiliau allweddol ar yr un pryd. Tynnodd hyn hefyd ar ganfyddiadau o niwro-wyddoniaeth mewn rhaglen a elwir yn ddysgu 'cyfeillgar i'r meddwl'.

Arsylwodd un athrawes fabanod oedd yn gyfrifol am arwain 'asesu ar gyfer dysgu' arfer a rhannodd arfer/strategaethau a syniadau gwersi ac roedd wedi'i pharatoi'n well i gymryd ei rhan wrth asesu athrawon eraill i gynnwys 'AAD' yn eu cynllunio.

Unwaith eto, datblygodd rhwydwaith o benaethiaid cynorthwyol cynradd dechnegau asesu ffurfiannol fel holi effeithiol, meini prawf llwyddo a grëwyd gan y plant eu hun, a hunanwerthuso, a bu iddynt drafod a threialu'r ymagweddau hyn.

Yn drydydd, yr ysgol fel cymuned ddysgu. Gwyddom nad lle yn unig i ddisgyblion ddysgu yw'r ysgol, ond mae'n gymuned ddysgu gyfan ar gyfer athrawon, y staff ehangach, ac yn ganolfan ddysgu bosibl i'r gymuned ddaearyddol lle lleolir hi. Bydd ychydig o enghreifftiau'n dangos effaith ysgolion sydd ynddynt eu hunain yn rhwydweithiau o arfer effeithiol.

Creodd tri athro TGCh o ysgol uwchradd ym Mro Morgannwg rwydwaith yn eu hysgol i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r Diploma mewn Cymwysiadau Digidol (sy'n gyfwerth â 4 TGAU). Roeddent yn awyddus yn arbennig i ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain o ofynion ffiniau'r graddau uwch er mwyn i'w disgyblion wella. Datblygodd pedwar athro yn yr un ysgol ymagweddau creadigol at addysgu ITM drwy ddefnyddio'r Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol. Arweiniodd hyn at lefel fwy soffistigedig o ddefnydd o'r dechnoleg a helpodd y bechgyn oedd yn tangyflawni.

Mynychodd pennaeth a thri athro o ysgol uwchradd yng Nghaerdydd gynhadledd ryngwladol yn Sweden ar sgiliau meddwl a chawsant gyfle i drafod yn uniongyrchol gyda phobl fel Eduard de Bono a Guy Claxton. Helpodd y gynhadledd yr uwch dîm i nodi arfer neilltuol a'u galluogi i weithio ar y cyd â'u cydweithwyr yn yr ysgol i ddatblygu'r ymagweddau a oedd eisoes wedi'u mireinio'n helaeth at feddwl a dysgu.

Datblygodd pedwar arweinydd canol o ysgol gynradd yng Nghaerdydd mewn ardal gymdeithasol-economaidd ddifreintiedig eu sgiliau fel arweinwyr canol drwy fynychu cyrsiau a chynnal ymchwil weithredol. Maent wedi gwella'u dealltwriaeth o arddulliau arwain, arweinyddiaeth ddosranedig ar waith ac wedi gweithredu eu dysgu mewn ysgolion.

Beth arall sy'n gorfod digwydd?

Mae angen gwneud mwy i greu amgylchiadau lle gallwn ddweud bod gennym system wir gydlynus a datblygol o DPP yng Nghymru lle caiff ansawdd ei sicrhau. Mae rhai blociau adeiladu eraill a fydd yn cynorthwyo i esgor ar broffesiwn dysgu.

Mae CyngACC wedi nodi'r materion hyn mewn tair set fawr o gyngor ar greu Fframwaith Datblygiad Proffesiynol i Athrawon.

Yn gyntaf, mae angen i ni ddysgu o gynllun peilot yr Athro Siartredig, ei brif-ffrydio a'i ddefnyddio fel y conglfaen ar gyfer gwella arfer yr ystafell ddosbarth ac arweinyddiaeth ganol mewn ysgolion. Mae SAU wedi mynd i'r afael â hyn yn frwdfrydig. Mae angen i ni wneud mwy i gael cydsyniad llawn gan AALl.

Yn ail, mae angen i ni symud at system gydlynus o achredu yn y fframwaith AB sy'n cyd-redeg â'r camau proffesiynol allweddol o SAC i brifathrawiaeth. Gyda chredydau gradd Meistr bellach yn cael eu dyfarnu ar gyfer rhai cyrsiau TAR ac yng nghyd-destun y datganiad diweddar yn Lloegr am symud i 'broffesiwn lefel gradd Meistr', rwy'n tybio'n bersonol y dylai Athro Siartredig gysylltu â lefel Meistr ac y bydd yn gwneud hynny, a chydag amser dylai CPCP gysylltu â lefel doethuriaeth.

Yn drydydd, mae angen dybryd i ni adolygu'r holl safonau at ei gilydd er mwyn sicrhau bod cydlyniaeth a dilyniant. Mae CyngACC yn mynd i arwain darn o waith eleni er mwyn rhoi cyngor i'r Cynulliad.

Yn bedwerydd, mae angen i ni gynorthwyo athrawon yn y broses adfyfyrio a chofnodi drwy bortffolio ar y we. Yn absenoldeb unrhyw ymateb gan Lywodraeth y Cynulliad i'r cyngor a ddarparwyd yn hyn o beth hydref diwethaf, rydym yng nghamau cynnar trafodaethau ynghylch fformat posibl gyda phartneriaid eraill.

Yn olaf, mae angen i ni godi ansawdd darpariaeth DPP drwy God Ymarfer i ddarparwyr a Chofrestr o ddarparwyr achrededig a'r cyrsiau a gynigant.

Casgliad

Rydym oll yn gwybod bod yna falchder proffesiynol sy'n tarddu o fod ar flaen eich proffesiwn ac ailasesu ac ailwerthuso'ch gwaith yn gyson er mwyn ymdrechu i wella drwy'r amser. Fy nymuniad personol i yw creu'r amgylchiadau sy'n caniatáu amlygrwydd i'r agwedd honno a'r diwylliant hwnnw ym maes addysgu - yn fy marn i ystyr hyn yw fframwaith proffesiynol cydlynus a dilynol sy'n cynorthwyo i roi cydnabyddiaeth i'r athro medrus iawn ac sy'n caniatáu iddo ef neu hi ddatblygu; cyllid da ar gyfer DPP; a darpariaeth y caiff ei hansawdd ei sicrhau. Nid wyf yn cydymdeimlo o gwbl gyda dadl un undeb y dylai pob math o DPP gael ei gyllido ac y dylid ei ystyried yn rhywbeth ychwanegol at waith arferol yr athro/athrawes. I ddyfynnu un swyddog undeb, "Ni wn ble bydd yr holl DPP hyn yn dod i ben"! Dyna'r union bwynt, ystyr yr ail 'P' mewn DPP yw nad oes angen iddo ddod i ben. Mae'n mynd law yn llaw â'r gwaith o fod yn weithiwr proffesiynol yn hytrach nag yn dechnegydd.

Dim ond drwy gadw'r cydbwysedd priodol rhwng blaenoriaethau ysgolion a llywodraethau 'o'r brig i lawr' a'r ymdrechion 'o'r gwaelod i fyny' gan athrawon i wella'u harfer proffesiynol, y byddwn yn cynnal y newid diwylliannol sydd ar droed.

Ond mae'n rhaid i ni barhau i ddarparu cyfleoedd i athrawon ddatblygu fel unigolion a pheidio â dychwelyd i system gyllido lle mai rhywbeth 'a gaiff ei wneud i athrawon' yw datblygiad proffesiynol yn hytrach na rhywbeth y mae ganddynt reolaeth drosto a pherchnogaeth ohono.

Mae'r newid diwylliant y bûm yn ei ddisgrifio yn mynd rhagddo ond nid yw'n unffurf eto ar draws ysgolion a'r proffesiwn. Mae angen polisi ychydig yn fwy cydgysylltiedig arnom ar lefel ganolog a lleol ac mae angen bod yn llai amddiffynnol am rolau a grymoedd ar lefel leol cyn i bethau fynd dros ben llestri.

Diolch.