2/6/08

Athrawon Yn Cael Eu Hannog i Fachu Cyfleoedd Datblygu

Gwahoddir athrawon ledled Cymru i gyfrannu at gynllun peilot cyfredol y Rhaglen Athrawon Siartredig sy’n cael ei gydlynu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC).

Gyda bron i hanner y modiwlau peilot eisoes yn rhedeg yn llwyddiannus, tair wythnos yn unig sydd gan athrawon sydd â diddordeb i gofrestru ar gyfer cyfnod nesaf y modiwlau peilot, ar-lein neu drwy’r post.

Mae athrawon sydd ag o leiaf pum mlynedd o brofiad yn gymwys i gymryd rhan ym modiwlau peilot y Rhaglen Athro Siartredig. Mae chwe modiwl eisoes wedi cael eu peilota a bydd y tri modiwl nesaf yn cychwyn ym mis Medi. Roedd y modiwlau blaenorol yn llawn, felly dylai athrawon sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y modiwlau newydd gysylltu â CyngACC cyn 20 Mehefin.

Y tri modiwl nesaf sydd ar fin cael eu peilota yw ‘Dysgu, addysgu ac asesu’ ‘Cymhwyso TGCh mewn dysgu ac addysgu gyda golwg ar addysgeg’ ac ‘Arwain y dysgu’ - modiwl sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth ganol.

Gan drafod llwyddiannau’r peilot Athro Siartredig hyd yn hyn, dywedodd Hayden Llewellyn dirprwy brif weithredwr CyngACC: “Bu cynllun peilot y Rhaglen Athro Siartredig yn boblogaidd iawn, gyda’r holl fodiwlau yn llawn. Rwy’n annog y rheini sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y modiwlau sy’n weddill i gofrestru. Mae’r broses beilota yn gam hollbwysig i brofi’r ffurfiau mwyaf priodol o ddysgu ac asesu proffesiynol gydag athrawon tra medrus. Bydd yr hyn a ddysgir wrth werthuso’r peilot yn annibynnol yn cael ei fwydo i unrhyw benderfyniadau a wneir wrth brif-ffrydio’r Rhaglen Athro Siartredig.”

Dylai athrawon sydd â diddordeb i gymryd rhan ym modiwlau peilot mis Medi, ymweld â gwefan CyngACC er mwyn cofrestru a gwneud cais am becyn ymgeisio.