
31/05/08
Cynhadledd Arfer Dda Yn Cwblhau’r Llwyddiant Triphlyg I Ddatblygiad Athrawon
Yn ddiweddar, cynhaliwyd y tair cynhadledd olaf ar gyfer lledaenu a rhannu arferion a ariannwyd gan CyngACC. Dyma’r olaf o gyfres o ddeg digwyddiad hynod lwyddiannus a drefnwyd mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a mudiadau eraill fel Awtistiaeth Cymru.
Cychwynnodd y sesiwn gyntaf yn Chwefror gyda chynhadledd arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer AALl Pen-y-bont ar Ogwr, gyda rhyw 50 o benaethiaid ac arweinwyr canol o’r sir yn cymryd rhan mewn gweithdai arweinyddiaeth ar amrywiaeth o bynciau. Dulliau effeithiol o wella ysgolion a chynllunio ar gyfer datblygu, a’u heffaith ar safonau oedd un pwnc dan arweiniad Siân Evans, pennaeth Ysgol yr Archddiacon Lewis, Bracla. Llynedd, diolch i gyfnod sabothol gan CyngACC, cafodd Siân gyfle i astudio cynllunio ysgol ar draws ysgolion mewn nifer o siroedd yn Ne Cymru a Morgannwg Ganol. Cyflwynodd ei chanlyniadau.
Meddai; ‘Cafodd fy ymchwil ymateb da iawn gan y gweithdy, a oedd yn cynnwys nifer fawr o ddirprwy benaethiaid. Cyflwynais y canlyniadau i’r grŵp er mwyn rhannu arferion gwahanol ysgolion yn hytrach na nodi’r ffordd gywir/anghywir o wneud pethau. Roedd hi’n amlwg mod i wedi rhoi rhywbeth i’r grŵp gnoi cil yn ei gylch, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ar wahanol arferion.”
Arweiniodd Michelle Young o Ysgol Gynradd Plasnewydd weithdy yn ymwneud ag arwain a rheoli staff cynorthwyol yn effeithiol, ac meddai; “Fe wnaeth yr AALl alw arnaf i ddarparu gweithdy ar gyfer cynrychiolwyr, rhannu arfer da o fewn yr awdurdod a hefyd amlinellu sut y gwnaeth cyllid gan CyngACC rhoi’r cyfle i mi ehangu fy natblygiad proffesiynol. Ein nod oedd dangos sut y gwnaeth ein datblygiad proffesiynol greu effaith arnom ni, ein disgyblion a’n hysgol. Yn dilyn gwaith gydag Awtistiaeth Cymru, fe ddatblygais strategaethau ac adnoddau ar gyfer cynorthwywyr cyn mynd ymlaen i weithio ar ddatblygiad proffesiynol ar gyfer staff cynorthwyol o fewn yr ysgol. Adeg y gweithdai, rhannwyd syniadau a strategaethau ar gyfer sefydlu staff cynorthwyol newydd, gan gynnwys darparu offerynnau angenrheidiol ar eu cyfer i helpu plant mewn amrywiol sefyllfaoedd.”
Meddai Les Philips, swyddog datblygu ysgolion, AALl Pen-y-bont ar Ogwr; “Roedd y diwrnod yn llwyddiannus iawn ac rwyf yn hynod o falch o’r canlyniadau a’r ymatebion a gafwyd gan y penaethiaid a gymerodd rhan. Fe wnaeth cyllid gan CyngACC alluogi’r fath ddigwyddiad ac edrychaf ymlaen at y cyfle i gydweithio unwaith yn rhagor yn y dyfodol, er lles yr athrawon yn yr awdurdod.”
Ar ddechrau mis Mawrth cynhaliwyd digwyddiad arall yng Nghaerdydd, sef “Athrawon yn Siarad am Ddysgu”. Fe dreuliodd dros 70 o athrawon Caerdydd y diwrnod yn rhannu gwybodaeth ac arfer gorau o ran technegau dysgu, mewn gweithdai dan arweiniad cydweithwyr.
Cyflwynwyd sesiwn gan Dawn Stevens a Caroline Neudegg, ill dwy o Ysgol Gynradd Trelái, ar y ffyrdd gorau i ddysgu datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn yr ystafell ddosbarth. Meddai Dawn; “Fe weithiodd Caroline a minnau gyda’n gilydd gyda phum ysgol wahanol gan lunio rhaglen o weithgareddau yn Nhrelái dros gyfnod o bythefnos. Fe wnaethom addysgu’r plant am herio stereoteipiau fel rhan o Wythnos Dinasyddiaeth Fyd-eang. Fe wnaethant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan groesawi swyddog pobl ifanc o Ymddiriedolaeth yr Amgylchedd i’r ysgol. Mae cymryd rhan yng nghynhadledd yr AALl gyda chyfle i ledaenu gwybodaeth, wedi profi i fod yn ddefnyddiol iawn i’r ddwy ohonom gan mai prin iawn yw’r amser sydd gennym i eistedd a gwrando ar athrawon eraill yn yr ardal er mwyn rhannu profiadau a gwybodaeth.”
Daeth y tri digwyddiad i ben gyda ‘Rhannu Arfer Da’ yn AALl Rhondda Cynon Taf, a oedd yn cynnwys sesiynau ar y fframwaith sgiliau newydd, cynllunio cyllidebau, meddwl yn feirniadol ac ysgolion bro. Ymhlith y cynrychiolwyr roedd dirprwy benaethiaid o ledled Cymru a dreuliodd y flwyddyn ddiwethaf yn cydweithio mewn grwpiau ar feysydd o ddiddordeb, nifer ohonynt yn manteisio ar gyllid gan CyngACC.
Fe wnaeth Kevin Stroud, dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Hendre, ynghyd ag Imogen Baker, Ysgol Gynradd Blaengwawr a Graham Phillips, Ysgol Gynradd Coed-pen-maen gyflwyno’u darganfyddiadau ar ysgolion bro. Meddai Kevin; “Roedd hi’n gyfle gwych i ni rannu ein gwaith gyda dirprwy benaethiaid eraill. Gan ddefnyddio cyllid gan CyngACC, rydym wedi ymweld ag ysgolion bro, gan greu darlun o’r hyn y maent yn ei olygu yn y bôn, yn ogystal â darparu rhai offerynnau defnyddiol ar gyfer ysgolion sy’n dymuno cymryd rhan. Roedd heddiw hefyd yn ddefnyddiol i ni oll fel dirprwy benaethiaid, gan ei fod wedi caniatáu i ni gael cipolwg a barn ein cymheiriaid o fewn yr AALl.”
Meddai Selwyn Jones, AALl Rhondda Cynon Taf a oedd yn gyfrifol am gyd-drefnu’r digwyddiad gyda CyngACC; “Roedd yr adborth a gafwyd gan y cynrychiolwyr yn disgrifio’r digwyddiad fel diwrnod llawn ac addysgiadol iawn, ac fe wnaeth nifer o athrawon fynegi diddordeb i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhwydweithio tebyg yn y flwyddyn ariannol newydd. Mae’r gweithgareddau hyn hefyd yn cyfri’n rhannol tuag at gyflawni fframwaith effeithiolrwydd ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru.”
Meddai Hayden Llewellyn, dirprwy brif weithredwr CyngACC; “Mae CyngACC yn falch iawn o fedru gweithio gydag awdurdodau addysg lleol a rhanddeiliaid eraill yn y fath ffordd drwy ddigwyddiadau cydweithiol. Mae rhannu arferion yn hynod o werthfawr yn nhermau gwella safonau, ac mae’r digwyddiadau hyn wedi profi’n gyfle delfrydol i wireddu hyn. Edrychaf ymlaen at weld mwy o’r digwyddiadau hyn sy’n ein caniatáu i rannu gwybodaeth ac arferion, eto yn y dyfodol.”