
14/10/2008
Cyllideb rhaglen DDP Athrawon yn cael ei dyrannu mewn chwe mis yn unig
Cafodd y gyllideb flynyddol o £3 miliwn ei dyrannu mewn chwe mis yn unig yn dilyn y galw mawr gan athrawon ledled Cymru am nawdd gan y Cynulliad dan y rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus llwyddiannus.
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC), wastad wedi gweithredu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’, ond mae’r galw ers Ebrill 2008 yn golygu bod y gyllideb gyfan o £3miliwn eisoes wedi ei dyrannu i brosiectau sy’n anelu i helpu athrawon ddatblygu eu sgiliau a’u hymarfer unigol.
Meddai Gary Brace prif weithredwr CyngACC: “Bu galw digynsail am nawdd eleni, gyda dros 3,700 o athrawon yn elwa ar grantiau unigol, a 850 pellach yn gysylltiedig â rhwydweithiau proffesiynol a bwrsarïau grŵp. Nid oedd y gyllideb o £3miliwn yn medru ymdopi â’r galw gan y proffesiwn.”
Gan fod y gyllideb wedi ei dyrannu mor gyflym, nid oes yna nawdd grant pellach ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Ni fydd modd prosesu unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl dydd Gwener 10 Hydref ac fe’u dychwelir at yr athrawon. Dywedodd Mr Brace: “Yn y gorffennol, roedd modd i’r Cynulliad ddynodi nawdd ychwanegol ar gyfer y rhaglen pan ddyrannwyd y gyllideb gyfan. Yn anffodus, yng ngoleuni’r cynnydd yn y galw, adnoddau cyfyng a’r hinsawdd ariannol bresennol, nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn medru darparu nawdd ychwanegol i gefnogi’r rhaglen.”
Tra nad oes modd prosesu ceisiadau newydd, pwysleisia’r Cyngor nad yw hyn yn effeithio ar y ceisiadau am nawdd a gymeradwywyd eisoes.
Ar ddechrau 2009, mi fydd y Cyngor yn dosbarthu gwybodaeth ynglŷn â chyfleoedd ariannu ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n cychwyn yn Ebrill 2009. Mi fydd y wybodaeth honno hefyd ar gael ar-lein ar www.gtcw.org.uk.