AMODAU A THELERAU DEFNYDDIO'R WEFAN


1. Gweithredwr y Wefan
Gweithredir y wefan hon gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru o 4ydd Llawr, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW (y "Gweithredwr").

2. Trwydded
2.1 Mae'r Gweithredwr yn caniatáu trwydded anneilltuol i chi i ddefnyddio'r wefan hon o dan yr amodau a thelerau canlynol.
2.2 Gall y Gweithredwr derfynu'r drwydded hon ar unrhyw bryd.

3. Deunyddiau yn y Safle
3.1 Mae'r wefan hon yn cynnwys deunyddiau sy'n eiddo, neu'n drwyddedig i'r Gweithredwr. Mae'r deunydd yma'n cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, y cynllun, dull y gosod, golwg, ymddangosiad a graffeg. Caiff ei diogelu gan gyfreithiau eiddo deallusol yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, hawlfraint.
3.2 Fe gydnabyddir ar y wefan unrhyw nodau masnach a atgynhyrchir yn y wefan hon, nad sy'n eiddo, nac yn drwyddedig i'r Gweithredwr.
3.3 Gallwch edrych ar, defnyddio, lawrlwytho a storio'r deunydd ar y wefan hon ar gyfer defnydd personol ac ymchwil yn unig. Ni chaniateir defnydd masnachol. Gwaherddir ail-ddosbarthu, ail-gyhoeddi, neu fel arall wneud unrhyw ddeunydd ar y wefan hon ar gael i drydydd person heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Gweithredwr.
3.4 Gall defnydd anawdurdodedig o'r wefan hon arwain at hawl am iawndal a/neu fod yn dramgwydd troseddol.

4. Cywirdeb Gwybodaeth
4.1 Rhoddir y wybodaeth ar y wefan hon mewn diffuantrwydd ac ar gyfer defnydd a diddordeb cyffredinol yn unig. Gall newid yn ddirybudd. Nid yw'r Gweithredwr yn gyfrifol am unrhyw anghywirdebau ac (ac eithrio 'r hyn a nodir yng nghymal 6.3) nid yw'n gwneud unrhyw gynrychiolaeth nac yn rhoi gwarant i'w gywirdeb.
4.2 Ni ddylid dibynnu ar y wybodaeth yn y wefan hon ac nid yw'n ffurfio unrhyw fath o gyngor nac argymhelliad. Drwy ddefnyddio'r wefan hon rydych yn cadarnhau nad ydych wedi dibynnu ar wybodaeth o'r fath. Mae unrhyw drefniadau a wneir rhyngoch chi ac unrhyw drydydd person a enwir neu y cyfeirir ato ar y wefan yn risg a chyfrifoldeb i chi'n unig.
4.3 Ni fwriedir i unrhyw beth ar y wefan hon ac ni ddylid ei ddehongli fel cynnig i ddod i berthynas gytundebol.

5. Cysylltu
5.1 Mae'r wefan hon yn cynnwys cysylltiadau i wefannau eraill. Nid yw'r Gweithredwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am gynnwys gwefannau eraill nad ydynt dan reolaeth lem y Gweithredwr. Ni fwriedir i unrhyw gyswllt fod yn, ac ni ddylid ei dehongli fel, cefnogaeth o unrhyw fath gan Weithredwr y wefan arall honno.
5.2 Ni chewch greu cysylltiad i'r wefan hon o wefan na dogfen arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen law gan y Gweithredwr.

6. Atebolrwydd
6.1 Nid yw'r gweithredwr yn gwarantu y bydd defnydd o'r wefan hon yn gydnaws gyda'r holl galedwedd a meddalwedd y gellid eu defnyddio gan ymwelwyr â'r wefan.
6.2 Ac eithrio fel ag y nodir yng nghymal 6.3, ni fydd unrhyw atebolrwydd gan y Gweithredwr tuag atoch chi boed hynny mewn cytundeb, camwedd (yn cynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, adferiad nac fel arall am unrhyw anaf, marwolaeth, difrod neu golled o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol (pob un o'r tri yn cynnwys heb gyfyngiad, colled economaidd pur, colli elw, colli busnes, lleihau ewyllys da a cholled debyg) sut bynnag y'i hachoswyd yn codi o neu mewn perthynas â defnyddio'r wefan hon neu'r defnydd, cael mynediad i, dadlwytho neu ddibynnu ar wybodaeth neu ddeunyddiau eraill a gynhwysir yn y wefan hon, yn cynnwys, heb gyfyngiad, o ganlyniad i firws cyfrifiadurol.
6.3 Nid yw'r amodau a'r telerau hyn yn diarddel ei atebolrwydd (os oes) i chi am unrhyw anaf personol neu farwolaeth o ganlyniad i esgeulustod y Gweithredwr, am dwyll neu unrhyw fater y byddai'n anghyfreithlon i'r Gweithredwr ddiarddel neu geisio diarddel ei atebolrwydd yn ei gylch.

7. Cytundeb Llawn
Mae'r amodau a'r telerau hyn yn cynnwys yr holl delerau yr ydych chi a'r Gweithredwr wedi cytuno iddynt mewn perthynas â defnyddio'r wefan.

8. Awdurdodaeth a derbyn yr amodau a thelerau hyn
8.1 Rheolir a gweithredir y wefan hon gan y Gweithredwr o'i swyddfeydd yng Nghymru. Caiff ffurfiad, bodolaeth, adeiladwaith, perfformiad, dilysrwydd ymhob agwedd pa fath bynnag o'r amodau a thelerau hyn neu o unrhyw delerau o'r amodau a thelerau hyn neu unrhyw anghydfod mewn perthynas â'r defnydd a gynhwysir ar y wefan hon ei lywodraethu gan ddeddf Lloegr fel sy'n berthnasol i Gymru. Bydd gan lysoedd Lloegr a Chymru awdurdodaeth neilltuedig i ddatrys unrhyw anghydfod a all godi o'r, neu mewn cysylltiad â'r, amodau a thelerau neu ddefnydd o'r wefan.
8.2 Mae'r amodau a'r telerau hyn hefyd ar gael ar y wefan hon yn Saesneg. Os bydd gwrthdaro rhwng y Saesneg a'r Gymraeg ynghylch yr amodau a'r telerau hyn, y fersiwn Saesneg gaiff flaenoriaeth.
8.3 Wrth barhau i ddefnyddio'r wefan hon rydych yn dynodi eich bod yn derbyn yr amodau a'r telerau.